Gwasanaeth Comisiynu

Cynhaliwyd Gwasanaeth Comisiynu Ymddiriedolwyr newydd yr Esgobaeth yng Nghadeirlan Bangor bnawn dydd Mercher, 23 lonawr. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Ddeon Sue, ac Esgob Andrew oedd yn comisiynu’r swyddogion newydd ac yn ailgadarnhau penodiadau’r rhai oedd yn ymgymryd ag ail dymor yn eu swyddi, gyda’n Caplan, y Parch Neil Ridings yn rhoi’r anerchiad. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan bob un o’r swyddogion newydd.

Wedyn tynnwyd lluniau fesul grŵp i’n hatgoffa o’r prynhawn arbennig hwn a pharatowyd te a bisgedi gan aelodau o ddwy gangen Llywydd newydd yr Esgobaeth, sef Porthmadog a’r Gadeirlan.


Posted in Uncategorized | Leave a comment

Lansio cardiau post “Prynu / Prinhau Plentyndod” (“ Bye Buy Childhood” ) yn y Senedd.

Oeddech chi’n gwylio newyddion BBC Wales am 6.30 nos Fercher, 24 Hydref ?

Byddech wedi gweld aelodau Undeb y Mamau o bob cwr o Gymru wedi ymgynnull yn y Senedd ar achlysur lansio’r cerdyn post dwyieithog sydd i gael ei ddefnyddio pryd bynnag y dymunwn ddatgan ein hanfodlonrwydd am gynnwys rhaglenni a ddarlledir cyn 9.00 o’r gloch yr hwyr.

Siaradodd Mrs Kath Broadbent, Llywydd Esgobaeth Bangor, am bwysigrwydd yr ymgyrch “Prynu / Prinhau Plentyndod” i dynhau rheoliadau, herio rhieni i gwyno, a hyrwyddo “gadael i blant fod yn blant”.

Janice Gregory A.C. drefnodd y lansiad yn y Senedd ac ymunodd aelodau eraill o’r Cynulliad gyda hi. Pleser o’r mwyaf i aelodau Undeb y Mamau oedd presenoldeb Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan. Mae’r cardiau post ar gael gan aelodau o Undeb y Mamau ac mae croeso i aelodau o’r cyhoedd hefyd i’w defnyddio.

Posted in Uncategorized | Leave a comment
  • Esgobaeth Bangor



    Mae esgobaeth Bangor yn ymestyn dros y cyfan o ranbarth gogledd-orllewin Cymru ac yn gydffiniol i bob pwrpas â theyrnas hynafol Gwynedd.

    Mae’n ymestyn o borthladd Caergybi yn y gogledd i dref farchnad wledig Llanidloes yn y de; o’r santaidd Ynys Enlli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain,ar hyd arfordir Gogledd Cymru; gydag Eryri ac ardaloedd mwyaf mynyddig Cymru yn gefndir iddi.