Prosiectau

 

 

Mae’r aelodau yn yr esgobaeth hon yn cefnogi bywyd teuluol ac yn weithgar mewn sawl maes –

 

Cefnogwn y 4 Cymorth i Ferched yn ein hesgobaeth trwy gyflenwi bwydydd sych a bwydydd tun, pethau ymolchi a dillad i ferched a phlant.

 

Cefnogwn yr ysbytai yn ein hesgobaeth, yn arbennig Ysbyty Gwynedd, gydag anrhegion o ddillad pwrpasol i fabanod a anwyd cyn pryd, a phecynnau o bethau ymolchi ar gyfer y wardiau argyfwng a’r ward mamolaeth. Mae gwirfoddolwyr Undeb y Mamau yn gweithio bob diwrnod yn Tŷ Enfys – uned aros i rieni plant sy’n ddifrifol wael, a rhoddir help llaw hefyd yn ystafell chwarae ward y plant.

 

Mae ein Cynrychiolydd Tramor mewn cysylltiad ag Undeb y Mamau yn ein Esgobaethau Cyswllt Katsina ac Ogbomoso yn Nigeria, Mumias yn Kenya, Matabeleland yn Zimbabwe, Kivu yn Rwanda a Fianarantsoa yn Madagascar. Hefyd anfonwn eitemau dramor trwy gyswllt plwyfol i Lango, a thrwy gysylltiad â chartref plant amddifaid yn Madagascar. (Anfonwn ddillad a thedis wedi eu gwau).

 

Casglwn sbectols ail-law i’w hanfon i Affrica trwy Glwb Llewod Caergybi neu rai optegyddion lleol. Defnyddir hwy yno ar gyfer pobl sydd â gwir angen rhai ar gyfer cael gwaith.

 

Trwy ein Cynllun Gwyliau A.F.I.A. trefnwn wyliau ar gyfer unrhyw deulu neu unigolyn sydd angen seibiant.

 

Mae aelodau Undeb y Mamau yn gwirfoddoli yn y Canolfannau Cyswllt â Phlant ym Mangor, Caergybi a Phorthmadog (mewn partneriaeth â Relate, Gogledd Cymru).

Ymuno ag Undeb y Mamau

Mae aelodaeth o Undeb y Mamau yn agored i bawb a fedyddiwyd yn enw’r Drindod Sanctaidd ac sy’n datgan eu cefnogaeth i Ddibenion ac Amcanion y mudiad.

Pan sefydlodd Mary Sumner “undeb i famau” yn 1876 a allai fod wedi rhagweld Undeb y Mamau fel y mae heddiw?

  • Mae dros bedair miliwn o aelodau mewn rhagor na 80 o wledydd, gyda phawb yn gweithio tuag at wella bywyd teuluol yn ein cymunedau trwy weithredoedd ymarferol a gweddïau.
  • Llais byd-eang, yn dylanwadu ar faterion fel dyled ryngwladol a lles teuluol. Prosiectau allanol hanfodol – mewn carchardai, canolfannau cyswllt, ysbytai, gwersylloedd ffoaduriaid – yn wir, lle bynnag y gwelir angen.
  • Aelodau ledled y byd yn un mewn gweddi a chymdeithas.
  • Esgobaeth Bangor



    Mae esgobaeth Bangor yn ymestyn dros y cyfan o ranbarth gogledd-orllewin Cymru ac yn gydffiniol i bob pwrpas â theyrnas hynafol Gwynedd.

    Mae’n ymestyn o borthladd Caergybi yn y gogledd i dref farchnad wledig Llanidloes yn y de; o’r santaidd Ynys Enlli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain,ar hyd arfordir Gogledd Cymru; gydag Eryri ac ardaloedd mwyaf mynyddig Cymru yn gefndir iddi.