Mae bywyd ysbrydol ein haelodau yn ystyriaeth bwysig
Unir aelodau ledled y byd mewn gweddi, addoliad a chymdeithas. Yn ddyddiol yn y Don o Weddi gweddïa aelodau dros eu cyd-aelodau mewn esgobaethau ar draws y byd. Darparwn adnoddau i aelodau unigol, canghennau ac esgobaethau ar ddyddiau gŵyl, dyddiau tawel a Chyrsiau Astudio’r Beibl.
Aelodau na allant gymryd rhan yng ngweithgareddau Undeb y Mamau am wahanol resymau yw Cylch Gweddi’r Aelodau Cartref, a gweddïant dros waith y mudiad.
Yn yr esgobaeth hon mae’r Pwyllgor Unedol yn :
- helpu i baratoi gwasanaethau ar gyfer achlysuron arbennig fel dyddiau gŵyl yr esgobaeth neu’r ddeoniaeth a’r gwasanaeth Ton o Weddi blynyddol.
- trefnu Prynhawn Tawel blynyddol.
- paratoi rhestr o siaradwyr sy’n fodlon ymweld â changhennau.
- dosbarthu llenyddiaeth a gwybodaeth a ddaw o Lundain.
- paratoi calendr ymbiliad misol i ganghennau’r esgobaeth.
- trefnu Cadwyn Weddi Argyfwng.
- gyfeillio canghennau â rhai eraill yn yr esgobaeth fel y gallant weddïo dros ei gilydd.
- atgoffa aelodau fod deunydd defnyddiol ar gael ar safle we’r mudiad e.e. Gweddïau misol, deunydd Astudio’r Beibl, ac ati.
- Cael aelodau i siarad mewn canghennau, Prynhawnau Tawel ac ati.
Ceidw un gangen gysylltiad â’r aelodau cartref trwy gyfrwng llythyrau a chardiau.
Ton o Weddi
Cysylltir Esgobaeth Bangor ag Esgobaethau Matabeleland yn Zimbabwe, Katsina ac Ogbomoso yn Nigeria, Mumias yn Kenya, Fianarantsoa yn Madagascar a Kivu yn Rwanda. Ein Cyd-Esgobaethau yw Dulyn a Glendalough yn Iwerddon a Lango.
(Esgob Matabeleland a Mrs.Lunga yn ymweld â changen Corris UM)
Gweddïir dros aelodau ein hesgobaeth ac aelodau ein hesgobaethau cyswllt yn arbennig o 26 Ionawr i 31 Ionawr bob blwyddyn.
Bydd ein Cynrychiolydd Tramor, sy’n rhan o’r Uned Gweithrediadau Allanol, yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau ein esgobaethau cyswllt trwy gyfrwng llythyr a chardiau Nadolig a Phasg.