Mae aelodaeth o Undeb y Mamau yn agored i bawb a fedyddiwyd yn enw’r Drindod Sanctaidd ac sy’n datgan eu cefnogaeth i Ddibenion ac Amcanion y mudiad.
Pan sefydlodd Mary Sumner “undeb i famau” yn 1876 a allai fod wedi rhagweld Undeb y Mamau fel y mae heddiw?
- Mae dros bedair miliwn o aelodau mewn rhagor na 80 o wledydd, gyda phawb yn gweithio tuag at wella bywyd teuluol yn ein cymunedau trwy weithredoedd ymarferol a gweddïau.
- Llais byd-eang, yn dylanwadu ar faterion fel dyled ryngwladol a lles teuluol. Prosiectau allanol hanfodol – mewn carchardai, canolfannau cyswllt, ysbytai, gwersylloedd ffoaduriaid – yn wir, lle bynnag y gwelir angen.
- Aelodau ledled y byd yn un mewn gweddi a chymdeithas.
Ymholi am ymaelodi
Yn esgobaeth Bangor mae dwy ffordd i ymuno ag Undeb y Mamau. Gallwch ymuno â changen leol fel Aelod o’r Gangen honno a mynychu cyfarfodydd misol. I ganfod y gangen leol agosaf cysylltwch â’r Cysylltu â Chynrychiolydd Aelodaeth o Gangen.
Os, fodd bynnag, nad ydych yn gallu neu ddim yn dymuno mynychu cyfarfodydd rheolaidd gallwch ddod yn Aelod Esgobaethol y cysylltir â chi drwy lythyr neu ebost. Os felly cysylltwch â’r Cysylltu â Chynrychiolydd Aelodaeth Esgobaithol.
Fel arall mae’n bosibl ichi brintio a llenwi’r ffurflen ganlynol a’i phostio i’r Cynrychiolydd perthnasol:
Cynrychiolydd Aelodaeth o Gangen Undeb y Mamau 3 Ralph Street Borth-y-Gest Porthmadog GWYNEDD LL49 9UA | Cynrychiolydd Aelodaeth Esgobaethol Undeb y Mamau 15 Tai Newydd Llanfaelog Ynys Mon LL63 5TW |
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Cais am Ymaelodi ag Undeb y Mamau, Esgobaeth Bangor
Enw
Cyfeiriad
Rhif Ffôn
Cyfeiriad ebost
Dymunaf wneud cais am aelodaeth Cangen/ Esgobaethol (dileier yn ôl y galw )
Llofnod …………………………………………………………………………………………………………….. Dyddiad …………………………………… ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Neu gweler wefan Undeb y Mamau – – www.themothersunion.org