Oeddech chi’n gwylio newyddion BBC Wales am 6.30 nos Fercher, 24 Hydref ?
Byddech wedi gweld aelodau Undeb y Mamau o bob cwr o Gymru wedi ymgynnull yn y Senedd ar achlysur lansio’r cerdyn post dwyieithog sydd i gael ei ddefnyddio pryd bynnag y dymunwn ddatgan ein hanfodlonrwydd am gynnwys rhaglenni a ddarlledir cyn 9.00 o’r gloch yr hwyr.
Siaradodd Mrs Kath Broadbent, Llywydd Esgobaeth Bangor, am bwysigrwydd yr ymgyrch “Prynu / Prinhau Plentyndod” i dynhau rheoliadau, herio rhieni i gwyno, a hyrwyddo “gadael i blant fod yn blant”.
Janice Gregory A.C. drefnodd y lansiad yn y Senedd ac ymunodd aelodau eraill o’r Cynulliad gyda hi. Pleser o’r mwyaf i aelodau Undeb y Mamau oedd presenoldeb Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan. Mae’r cardiau post ar gael gan aelodau o Undeb y Mamau ac mae croeso i aelodau o’r cyhoedd hefyd i’w defnyddio.