Cynhaliwyd Gwasanaeth Comisiynu Ymddiriedolwyr newydd yr Esgobaeth yng Nghadeirlan Bangor bnawn dydd Mercher, 23 lonawr. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Ddeon Sue, ac Esgob Andrew oedd yn comisiynu’r swyddogion newydd ac yn ailgadarnhau penodiadau’r rhai oedd yn ymgymryd ag ail dymor yn eu swyddi, gyda’n Caplan, y Parch Neil Ridings yn rhoi’r anerchiad. Cymerwyd […]
Esgobaeth Bangor
Mae esgobaeth Bangor yn ymestyn dros y cyfan o ranbarth gogledd-orllewin Cymru ac yn gydffiniol i bob pwrpas â theyrnas hynafol Gwynedd.
Mae’n ymestyn o borthladd Caergybi yn y gogledd i dref farchnad wledig Llanidloes yn y de; o’r santaidd Ynys Enlli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain,ar hyd arfordir Gogledd Cymru; gydag Eryri ac ardaloedd mwyaf mynyddig Cymru yn gefndir iddi.