Adnoddau

Amcanwn at gynnal yr aelodau presennol ac annog eraill i ymuno ag Undeb y Mamau. Yn yr esgobaeth hon :

  • Cyhoeddwn y cylchgrawn esgobaethol, Teulu Mair.
  • Anfonwn Ebost Clerigol Undeb y Mamau yn fisol i bob offeiriad yn Esgobaeth Bangor yn cynnwys y newyddion diweddaraf am weithgareddau’r mudiad yn yr Esgobaeth, yn y DU a thramor.
  • Gofalwn am aelodau’r esgobaeth. Mae pob aelod yn derbyn llythyrau neu ebostau yn cynnwys newyddion o’r esgobaeth, gwybodaeth a manylion am weithgareddau sydd i ddod, a cherdyn ar achlysur y Pasg a’r Nadolig.
  • Dosbarthwn Families Worldwide i bob aelod. Yn ogystal â newyddion o’r DU a thramor mae’r cylchgrawn hefyd yn cynnwys Dyddlyfr Gweddi dyddiol.

Arglwydd, yn nerth dy gariad a chan gynnal ein gilydd, estynnwn allan fel dy ddwylo di ar draws y byd heddiw.

  • Esgobaeth Bangor



    Mae esgobaeth Bangor yn ymestyn dros y cyfan o ranbarth gogledd-orllewin Cymru ac yn gydffiniol i bob pwrpas â theyrnas hynafol Gwynedd.

    Mae’n ymestyn o borthladd Caergybi yn y gogledd i dref farchnad wledig Llanidloes yn y de; o’r santaidd Ynys Enlli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain,ar hyd arfordir Gogledd Cymru; gydag Eryri ac ardaloedd mwyaf mynyddig Cymru yn gefndir iddi.